Ymweld ag Amgueddfa Lloyd George
O’R GWEITHDY I’R BYD - MAE GWADDOL PENDERFYNIADAU LLOYD GEORGE YN PARHAU I SIAPIO’R DYFODOL. DEWCH I DDARGANFOD.
O’i wreiddiau ym Mwthyn Highgate i’w rôl ganolog fel un o brif weinidogion Prydain yn yr Ugeinfed Ganrif, mae dylanwad Lloyd George yn parhau i effeithio gwleidyddiaeth, cymdeithas a hawliau cymdeithasol hyd heddiw. Yma gallwch archwilio’r casgliadau, y dogfennau, y cofroddion a’r llefydd sy’n dangos sut gwnaeth ei syniadau a’i benderfyniadau lunio Cymru, Prydain a’r byd ac sut y maent yn parhau i ysgogi trafodaeth a democratiaeth fodern.
Dewch i ddarganfod bywyd a threftadaeth un o wleidyddion mwyaf dylanwadol y 20fed ganrif - David Lloyd George, Prif Weinidog Prydain rhwng 1916 a 1922. Mae’r amgueddfa unigryw hon yn cynnig profiad trochi sy’n dwyn hanes yn fyw drwy greiriau, straeon personol sy’n adrodd hanes ei fagwraeth a’i yrfa eithriadol.
- Casgliad unigryw o gistiau rhyddfraint, creiriau a chofroddion personol sy’n olrhain ei effaith ar Gymru a’r byd ac yn annog ymwelwyr i ystyried sut mae gwaddol y penderfyniadau hynny yn siapio ein byd heddiw.
- Camwch yn ôl i oes Fictoria i Highgate, cartref plentyndod Lloyd George, wedi’i ddodrefnu fel yr oedd rhwng 1864 - 1880. (Nid yw Highgate yn hygyrch i gadeiriau olwyn).
- Gweithdy gwneuthurwr esgidiau ei ewythr wedi’i ail-greu’n ofalus, yn cynnig cipolwg ar ei fagwraeth a’r man lle dysgodd am wleidyddiaeth.
- Cerddwch i weld ei fedd gerllaw’r Afon Dwyfor, wedi’i ddylunio gan Clough Williams-Ellis - man tawel a hardd i fyfyrio ar eich ymweliad.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu!


Dysgwch sut daeth Lloyd George i sylw cenedlaethol
Dysgwch sut daeth Lloyd George i sylw cenedlaethol oherwydd giât gaeedig yn Llanfrothen a pham bod Lloyd George wedi gwisgo fel gwas yr heddlu i ddianc rhag torf blin yn Birmingham.



