Lloyd George a'r Ffliw Sbaenaidd

Ym 1918, roedd y byd ar ei liniau, ar ôl pedair blynedd o ryfel, ymddangosodd straen ffliw H1N1 fel cysgod dros y byd. Fe'i gelwid yn ffliw Sbaen, gan fod newyddiadurwyr Sbaenaidd yn wahanol i fwyafrif y byd, yn gallu adrodd ar y clefyd a'r marwolaethau, hwn oedd y pandemig mwyaf difrifol ers y Pla Du. 

Ar 11 Medi 1918, roedd David Lloyd George ar ben y byd, gan ddod â’r rhyfel mwyaf a gwaedlyd a welodd y byd erioed i ben a theithiodd i’r ddinas lle cafodd ei eni, Manceinion i’w anrhydeddu â Rhyddid y Ddinas. Roedd menywod o ffatrïoedd arfau a milwyr ar wyliau 'furlong' yn llenwi'r strydoedd o orsaf Piccadilly i sgwâr Albert yng nghanol y ddinas i groesawu eu harwr. 

Fodd bynnag, yn ddiweddarach y noson honno, datblygodd David Lloyd George dolur gwddf a thymheredd uchel. Treuliodd y deg diwrnod nesaf mewn gwely arbenigol yn Neuadd y Ddinas Manceinion, yn rhy sâl i symud a gyda pheiriant i helpu gyda'i anadlu.

 Roedd papurau newydd ar y pryd, a oedd yn cynnwys y Manchester Guardian, a phapurau Cymraeg fel Yr Udgorn ac Y Dydd yn ceisio tan ddatgan difrifoldeb y sefyllfa rhag ofn i'r Almaen fanteisio. Yn ddiweddarach, dywedodd staff a oedd yn agos iawn ato ei fod wedi bod yn "gyffwrdd a mynd". 

Yn 55 oed, goroesodd David Lloyd George y clefyd ond ni fu miloedd ar filoedd mor ffodus. Mewn byd cyn meddyginiaeth wrthfiotig a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, collwyd dros 250,000 o gleifion i'r afiechyd ym Mhrydain.