Ym 1940, prynwyd Highgate gan deulu Lloyd George ac fe’i gosodwyd i denantiaid hyd 1969. Yn gynnar yn y 1970au, agorwyd y tŷ i’r cyhoedd ac yng nghanol yr 1980au, fe’i trosglwyddwyd gan y teulu i Gyngor Sir Gwynedd. Adferwyd y tŷ i adlewyrchu sut yr oedd yn edrych pan oedd Lloyd George yn byw yno yn fachgen ifanc, gan gadw'r nodweddion gwreiddiol megis y 'range' a'r canllaw grisiau. Fe’i hagorwyd i’r cyhoedd eto fel atyniad ychwanegol i’r Amgueddfa.