Y boen a'r fraint

Ar ôl symud i Dŷ Newydd a nodi ei ben-blwydd yn 82 oed, aeth Lloyd George yn sâl ac fe'i cyfyngwyd i'w wely. Cafodd ofal gan Frances a'i ysgrifennydd Ann Parry, a ddisgrifiodd y cyfnod fel, "sharing the pain and the privilege of smoothing the path of a famous man."   

Cytunodd Megan i fod yn bresennol wrth ochr ei thad gan oresgyn ei gwrthwynebiadau i’w briodas â Frances. Ar 26 Mawrth 1945, wrth i'r teulu ddod ynghyd yn Nhŷ Newydd, cadarnhaodd y meddyg am 8:35pm fod Lloyd George wedi marw. 

Galwodd y Prif Weinidog Winston Churchill, Gwilym, mab Lloyd George i drafod trefniadau angladd gwladwriaethol yn Abaty Westminster. Ond cadarnhaodd Gwilym fod Lloyd George wedi dewis ei hoff lecyn lle'r oedd am gael ei gladdu ar lannau Afon Dwyfor yn Llanystumdwy.   

Yr Angladd

Adroddwyd yn eang mewn papurau newydd am drefniadau’r angladd ar ddydd Gwener y Groglith, 30 Mawrth 1945. Yn Nhŷ Newydd, daeth y teulu at ei gilydd ar gyfer gwasanaeth byr i goffáu gŵr, brawd, tad a thaid.  

Gosodwyd yr arch ar drol fferm gan gychwyn yr orymdaith fer i lan yr Afon Dwyfor lle roedd miloedd wedi ymgynnull. Gostyngwyd yr arch i'r bedd yn dawel, gyda sŵn yr afon yn y cefndir. Yna aeth y gynulleidfa ymlaen i ganu emynau Cymraeg oedd mor bwysig i Lloyd George. 

Yn ôl dymuniad Lloyd George, dim ond un maen oedd i’w osod i nodi lleoliad y bedd. 

“That is where I want to be buried. That is the stone which I sit on to admire the view of the river. I want no inscription on my grave, only that boulder.” 

Yn fuan wedyn comisiynwyd Clough Williams-Ellis gan Frances i gynllunio’r wal gerrig o amgylch y bedd ac yn ddiweddarach ychwanegwyd englyn gan ei wŷr W.R.P. George