Ymweld â ni

Gweler isod am wybodaeth ar oriau agor, cost mynediad, sut i gyrraedd ni, cyfleoedd ffilmio ac ymchwil.

Oriau agor

Mae'r Amgueddfa ar agor o'r Pasg tan ddiwedd mis Hydref.

Mynediad olaf un awr cyn cau.

Pasg - Mai
10:30 - 17:00 Llun i Gwener (Ar agor Dydd Sadwrn a Sul yn ystod penwythnosau Gŵyl Banc)

Mehefin
10:30 - 17:00 Llun i Sadwrn

Gorffennaf - Medi
10:30 - 17:00 Llun i Sul

Hydref
10:30 - 16:00 Llun i Gwener

Cost mynediad

Oedolion - £8.50
Consesiwn - £7.50
Plant - £4.50
Tocyn teulu - £20

Sut i gyrraedd ni

Car

Ein cod post ar gyfer y 'sat nav' yw LL52 0SH. Mae maes parcio am ddim ar safle’r Amgueddfa.

Trên

Mae’r orsaf drenau agosaf yng Nghricieth (1.5 milltir) ac mae llwybr troed palmantog yr holl ffordd o’r orsaf i’r Amgueddfa. Mae bws rhif 3 (isod) yn teithio trwy Gricieth.

Bws

Y trefi agosaf yw Porthmadog, Cricieth a Phwllheli. Mae bws rhif 3 yn teithio drwy’r tair tref ac yn mynd heibio i gatiau’r Amgueddfa (cliciwch yma am amserlen).

Yn ôl troed David Lloyd George

Mae’r Amgueddfa’n lleoliad gwych i gychwyn neu orffen eich taith gylchol gan ddilyn bywyd David Lloyd George drwy Lanystumdwy a Chricieth.

Mae’r llwybr yn chwe milltir sy’n eich arwain drwy gefn gwlad Eifionydd ac ar hyd rhan o Lwybr yr Arfordir. Cliciwch yma i lawrlwytho'r daflen wybodaeth a'r map.

Ymweliad Grŵp

Croesewir ymweliadau grŵp, cysylltwch â ni i drefnu amser.

Ffilmio

Croesewir cyfleoedd i hyrwyddo’r Amgueddfa a’i gweithgareddau ar ffilm. Mae angen caniatâd i ffilmio ar dir Cyngor Gwynedd. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Megan Corcoran amgueddfalloydgeorge@gwynedd.llyw.cymru

Ymchwil

Mae gan Amgueddfa Lloyd George lyfrgell bwrpasol i ymchwilio i fywyd a gwaith David Lloyd George. Mae copïau o lyfrau sydd bellach allan o brint. Mae croeso i chi anfon unrhyw ymholiadau at amgueddfalloydgeorge@gwynedd.llyw.cymru